Mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, wedi dweud ei bod hi’n bwysig fod Cymru’n croesawu gemau criced o safon uchel.
Tra’n siarad cyn gêm Tlws Pencampwyr yr ICC rhwng Lloegr a Seland Newydd yn Stadiwm Swalec, Caerdydd, heddiw, mae’r Gweinidog hefyd wedi canmol y gwaith sy’n digwydd ledled Cymru i ddenu mwy o blant at y gamp.
Rhwng 2006/7 a 2011/12, yng Nghymru gwelwyd:
- cynnydd o 20% mewn bechgyn iau sy’n chwarae criced;
- cynnydd o bron 100% yn nifer y merched iau sy’n chwarae criced;
- cynnydd o 92% yn nifer yr hyfforddwyr cymwys;
- cynnydd o 48% yn nifer y swyddogion cymwys.
“Rwy’ i am i bawb ym mhob rhan o Gymru allu cymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys criced,” meddai John Griffiths.
“Er gwaetha’r tywydd gwael dros yr hafau diweddar, mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod rhaglenni fel ‘Cyfle i Ddisgleirio’ yn llwyddiant mawr o ran annog plant a merched i chwarae yng Nghymru.
“Fel hwb i’r ymdrech ar lawr gwlad, mae plant hefyd yn cael y cyfle i wylio’r goreuon mewn criced mewn digwyddiadau fel gêm Tlws Pencampwyr yr ICC rhwng Lloegr a Seland Newydd yn Stadiwm Swalec.
“Rwy’n hyderus, drwy’r gwaith hwn, y bydd mwy o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn cael eu hysbrydoli i fod y Robert Croft neu’r Simon Jones nesaf.”
Arian a gêmau
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, yn buddsoddi £600,000 y flwyddyn i gefnogi criced ar lawr gwlad hyd at lefel Academi Morgannwg.
Yn ogystal â’r gêm heddiw rhwng Lloegr a Seland Newydd, bydd Stadiwm Swalec yn cynnal rownd gynderfynol Tlws Pencampwyr yr ICC ar 20 Mehefin, a gêm undydd NatWest rhwng Lloegr ac Awstralia ar 14 Medi.