Mae Prif hyfforddwr tîm Cymru dan 20 oed, Danny Wilson yn credu y gall ei dîm gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd. 

Fe gurodd y crysau cochion Yr Ariannin o 25-20 nos Iau er mwyn parhau â’u hymgyrych yn y gystadleuaeth.

Yr her nesa’ fydd wynebu De Affrica, y pencampwyr, yn Vannes ddydd Mawrth. Mae lle yn y rownd derfynol yn y fantol.

Cymeriad

‘‘Dangosodd y bechgyn llawer o gymeriad i ennill yn erbyn Yr Ariannin,” meddai Wilson. “Fe chwaraeon ni rygbi da yn yr hanner gyntaf, ond yn methu cynnal y safon yn yr ail hanner.

‘‘Roedd yn gêm gorfforol tu hwnt, ond fe wnaethom amddiffyn yn dda.  Rydym yn hyderus fe fydd paw bar gael i chwarae ddydd Mawrth nesa’. 

“Fe wnaeth Yr Ariannin guro De Affrica ddwywaith cyn dod i Ffrainc, felly er ein bod yn parchu ein gwrthwynebwyr, does gennym ddim i’w ofni.”