Shane Williams - sypreis!

Mae’r Llewod wedi gwneud cyhoeddiad syfrdanol bod cyn asgellwr Cymru, Shane Williams, wedi’i alw i ymuno â’r garfan yn Awstralia.

Oherwydd y rhestr anafiadau hirfaith, mae Warren Gatland wedi galw ar gyn seren Y Gweilch, ac fe fydd yn y tîm i herio ACT Brumbies yn Canberra ddydd Mawrth.

Mae Williams, sy’n 36 oed, yn chwarae rygbi i’r Mitsubishi Dynaboarsyn Japan ar hyn o bryd ar ôl iddo ymddeol o rygbi rhyngwladol yn Nhachwedd 2011.

Bydd y tîm ddydd Mawrth hefyd yn cynnwys y ddau Sais diweddaraf i’w galw i’r garfan, Christian Wad a Brad Barritt gyda chwaraewr wrth gefn arall, Rory Best yn Gapten.

Sypreis!

Roedd Williams y rhan o daith y Llewod yn 2005 a 2009 ac roedd yn teithio i Awstralia i sylwebu ar y gemau prawf.

Bydd yn ymuno â’r garfan ddydd Llun, yn chwarae ddydd Mawrth ac yna’n gadael ddydd Mercher.

“Mae o mewn cyflwr reit dda” meddai Warren Gatland am Williams.

“Ry’n ni’n gwybod ei fod yn ffit ac yn hyfforddi ac y bydd yn cynrychioli’r tîm â balchder.”

Tîm y Llewod i herio’r ACT Brumbies:

Rob Kearney, Christian Wade, Brad Barritt, Billy Twelvetrees, Shane Williams, Stuart Hogg, Ben Youngs; Ryan Grant, Rory Best (C), Matt Stevens, Ian Evans, Richie Gray, Sean O’Brien, Justin Tipuric, Toby Faletau

Eilyddion: Richard Hibbard, Alex Corbisiero, Dan Cole, Geoff Parling, Dan Lydiate, Conor Murray, Owen Farrell, Simon Zebo