Jamie Roberts
Bydd Jamie Roberts yn cael sgan ar anaf i’w goes fory i weld os yw’n debygol o fod yn ffit i herio Awstralia ym mhrawf cyntaf y Llewod ddydd Sadwrn nesaf.

Anafodd ei goes dde yn agos at ddiwedd y gêm yn erbyn y Waratahs heddiw wrth i’r Llewod sicrhau buddugoliaeth 47 – 17 mewn gêm gystadleuol.

Bydd hyfforddwr Y Llewod, Warren Gatland yn gobeithio am newyddion da yn dilyn y sgan gan fod un arall o’i ganolwyr, Manu Tuilagi, eisoes yn cario anaf ar ei ysgwydd.

Mae disgwyl i Brian O’Driscoll fod yn ffit mewn pryd i’r prawf cyntaf, ac os na fydd Roberts yn holliach fe allai Cymro arall, Jonathan Davies ddechrau’r gêm yn y canol gyda’r Gwyddel.

Cymry’n disgleirio

Roedd Davies yn un o sêr mwyaf Y Llewod heddiw, yn chwarae rhan allweddol ym mhob un o geisiau ei dîm, ac yn sgorio’r olaf ei hun.

Disgleiriodd Leigh Halfpenny unwaith eto yn erbyn y Waratahs – sgoriodd ddau gais a llwyddo gyda phob ymgais o’i droed i sgorio cyfanswm o 30 pwynt, sy’n record newydd i unrhyw un yn lliwiau’r Llewod.

Roedd canmol mawr i berfformiad dau flaenwr o Gymru hefyd gydag Alun Wyn Jones a’r capten Sam Warburton yn debygol o fod wedi sicrhau eu lle yn y tîm i herio Awstralia.