Mae golwg360 ar ddeall mae John Hywel Morris sydd wedi ei benodi yn Uwch Reolwr Datblygu Aelodau y Performance Rights Spciety (PRS) yng Nghymru.
Cafodd y swydd newydd ei chreu chreu ar ôl helyntion y corff hawliau cerddorol yng Nghymru wedi i gannoedd o gerddorion Cymreig ymuno gyda chorff newydd, Eos, oherwydd anniddigrwydd gyda’r PRS.
Mae John Hywel yn gweithio gyda’r PRS ar hyn o bryd yn cynrychioli cerddorion Cymru o bencadlys y sefydliad yn Llundain. Bydd y swydd newydd yn golygu bod gan y PRS swyddog yng Nghymru am y tro cynta’.
Pan gafodd y swydd ei hysbysebu, cafodd golwg360 afael ar gopi o’r disgrifiad swydd y tu cefn i’r hysbyseb. Roedd hwnnw yn sôn am yr angen i roi cyngor i’r corff ar strategaeth i dawelu a sbaddu ymgyrchwyr gwleidyddol ymhlith yr aelodaeth yng Nghymru.
Bu ymateb dig i’r disgrifiad swydd.
Dywedodd Hefin Jones o’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wrth golwg360 mae John Hywel Morris yw’r boi gorau ar gyfer y swydd.
“Mae’n gydnabyddiaeth haeddiannol o waith caled John Hywel dros gymuned cerddorol Cymru yn y blynyddoedd diweddar, a’i lafur i gadw’r ddesgil yn wastad drwy gyfnod hynod ansefydlog, a byddai wedi bod yn symudiad eithriadol i beidio a’i benodi.
“Byddai dewis unrhyw un arall wedi dirywio eu enw yn Nghymru.”
Dywedodd y PRS y byddan nhw’n gwneud datganiad swyddogol am y penodiad wythnos nesaf.