Bedwyr Williams
Fe fydd yr artist Bedwyr Williams yn dod â darn o waith gŵyl y Biennale yn Fenis i Fangor am un diwrnod yr wythnos nesa’.

Yr artist o Lanelwy, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Rhostryfan ger Caernarfon, oedd yn cynrychioli Cymru eleni yng ngŵyl gelf fwya’r byd. Roedd ei waith, ‘The Starry Messenger’ – cyfieithiad o deitl testun Galileol o 1610, Sidereus Nuncius – yn deyrnged chwareus, gysyniadol i Seryddiaeth a’r bobol sy’n ymddiddori yn y pwnc, ac wedi ei osod mewn hen fynachdy ger un o gamlesi’r ynys.

Fe fuodd Elin Hefin o’r Borth, ger Aberystwyth yn Fenis ar ran cylchgrawn Golwg i weld y gwaith. Dyma ran o’i hadroddiad (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y cylchgrawn ar Fehefin 6).

“Y peth cyntaf a welwch wrth fynd i fewn yw llen sydd wedi ei phrintio, ailgread o’r teils terrazzo sydd ar loriau cymaint o’r adeiladau yma, a dyma un o’r prif themâu sydd yn cael eu trin yn ei arddangosfa. Y tu draw i’r llen, ac o flaen allor, y mae ‘obervatory’ seryddwr ac ynddo gyfrifiadur, siartiau seryddol ac eitemau domestig cysurus a sŵn dyn canol oed yn llefen. Mae’r stafell nesa yn dywyll iawn ac ar y llawr, pwll dŵr hirsgwar yn llawn llechi’n arnofio. Coridor hollol dywyll ond am sêr o dan draed ac uchben sydd wedyn yn arwain i fewn i stafell dywyll arall ac ynddi gromlechi anferthol yn llanw’r stafell yn llwyr. Yna ymlaen i stafell olau, fodern a bwrdd gwydr yn crogi uwchben fel bod y llu eitemau amrywiol sydd arno i’w gweld oddi tanynt yn unig.

“Wrth sefyll yn syllu ar y rhain, mae modd cael cip drwy ddrws yn y pen arall ar y ffilm sy’n chwarae yn y stafell nesa, ac mae troslais Bedwyr i’w glywed dros ddelweddau amrywiol iawn. Teils yw’r thema yma ar y cyfan, ac mae na blethiad o gerddoriaeth megis fersiwn fer o ‘Efo Deio i Dywyn’, delweddau S&M, Bedwyr yn gwisgo helmed o ddarnau o mosaic gyda phâr o ddannedd dodi ar y talcen. Oes, mae yna dipyn o hiwmor!

“Wrth adael yr arddangosfa, hawdd meddwl eich bod wedi mynd i stafell ar ddamwain, ac wrth oedi a chwilio am yr allanfa cywir daw sŵn o grombil anibendod yr stafell sy’n ymddangos fel cwtsh gofalwr, i atgoffa fod y celf dal ar waith.

“Ar ôl tridiau o grwydro Fenis yn edrych ar gelf fodern o bedwar ban byd, mae rhai delweddau yn aros yn y cof yn fwy nag eraill – am amryw resymau. Yn un, roedd gofyn i ni gnoi gwm cnoi ac yna’i wasgu ar sgrin mewn man o’n dewis, gweithred a oedd, yn ôl yr artist o’r Dominican Republic, yn symbol o gyfrifoldeb torfol a’n cyfrifoldeb o adael nôd ar ein cymdeithas. Cawsom wylio tra roedd artist arall yn codi clawr arch i ddangos mochyn yn cael ei goginio’n araf  wedi ei orchuddio mewn ‘gold leaf’, ac mewn un stafell enfawr dywyll, roedd modd edrych ar 6 sgrîn fawr tra’r oedd gwahanol gyrff yn cael eu trin er enghraifft, llawdriniaeth ar lygad, llygoden Ffrengig yn cael ei ddatgymalu a menyw yn cael tattoo hyll waedlyd.

“Dywedodd Lynne Crompton, curadur Oriel Q Arberth, fod yr arddangosfeydd ymylol yn aml yn fwy diddorol na’r prif bafiliynau yn yr Arsenale a’r Giardini, ac ‘mae’r galerïau parhaol yn bleser pur i ail-ymweld â nhw’. Llydäwr o ŵr busnes hynod lwyddiannus sydd berchen ar ddwy adeilad anfarwol, y Palazzo Grassi a’r Punta Della Dogana ac ynddynt eleni mai arddangosfeydd hynod drawiadol.

“I ddathlu presenoldeb Cymru, cafwyd parti mewn ysgol gyfagos i’r arddangosfa, diodydd Cymreig, bwyd bys-a-bawd ac un o’r bobl mwyaf cŵl yn Fenis yn perfformio, sef yr über-cŵl Gruff Rhys. Atyniad a hanner!”
* Fe fydd Bedwyr yn dod â’i blanetariwm unigryw i Neuadd Powis ddydd Iau, Mehefin 20 am 11am, 2-m, 7pm.