Mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu’r wythnos hon bod Bryn Fôn a Geraint Jarman yn cael lle parchus iawn ar ddiwedd dwy noson yn ystod Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni.

Mi fydd Bryn Fôn yn perfformio ar Lwyfan Syr Clough Williams-Ellis o dan ofal trefnwyr Gŵyl Gwydir & Nyth nos Sul – yn union cyn i’r Manic Street Preachers gamu ar y llwyfan.

Y grwpiau Cymraeg eraill ar y llwyfan ddydd Sul fydd Bob Delyn a’r Ebillion, Sen Segur, Colorama, a Gwenno Saunders. Unwaith y bydd Bryn Fôn yn gorffen ei set, bydd y Manics yn dechrau ar lwyfan arall.

Ac mae mae Huw Stephens a Gŵyl Sŵn yn gyfrifol am lein-yp Cymraeg nos Wener ar y llwyfan – gyda Geraint Jarman, Cowbois Rhos Botwnnog, yr Ods, a Georgia Ruth.

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion Cyf yn llawn cynnwrf ynglŷn â’r cynnydd yn y presenoldeb Cymraeg eleni, ac yn honni bod y trefnwyr wedi bod yn “ofnadwy o awyddus” i helpu i’w wireddu.

“Mae o’n rhywbeth sy’n mynd i fod yn apelio at bobol yr ardal, pobol Gwynedd, pobol Cymru,” meddai Robin Llywelyn. “Beth ydan ni eisio ydi trefnu gŵyl sy’n adlewyrchu’r fro a rhoi blas ar y fro a’r iaith, fel nad ydi’r bobol yma yn dod i ryw ŵyl sy’n digwydd bod yng Ngwynedd neu Bortmeirion. Mae hi’n hanu o’r ardal.

“Dydan ni ddim yn rhyw gae yn ganol nunlla a fuasai’n gallu bod yn Heathrow neu yn Glasgow. Rydan ni yng nghanol y fro Gymraeg ac rydan ni eisio iddo fo fod yn cynrychioli hynny.”

Nos Sadwrn, fe fydd Gruff Rhys a’i grŵp electronica Neon Neon yn cyflwyno eu perfformiad dramatig ar ran y National Theatre Wales, Praxis Makes Perfect.

“Mi ddylai fod y cymysgedd yn gweithio yn berffaith i’r math o le ydan ni,” meddai Robin Llywelyn. “Mi fydd yn tynnu lot o bobol fydd eisio mynd i weld y Manics, ond mi fydd rhywbeth arall wedyn a fydd yn rhoi ongl arall i’r holl ddigwyddiad. Mi fydd yna ŵyl Gymraeg o fewn yr ŵyl.”

Fe fuodd yr ŵyl Rhif 6 gyntaf y llynedd yn llwyddiant, gyda grwpiau enwog fel Spiritualized, Primal Scream a New Order yn denu torfeydd o bob cwr o Brydain a thu hwnt. Enillodd wobrau lu – Yr Ŵyl Fach Orau gan gylchgrawn yr NME, a thair gwobr gan y Festival Awards – am yr ŵyl newydd orau, hyrwyddwr gorau’r flwyddyn i’r trefnydd Gareth Cooper a’r perfformiad gorau gan un o’r grwpiau clo, New Order.

“Mi oedd o’n llwyddiant,” meddai Robin Llywelyn. “Ond mae yna wahanol ffyrdd o fesur llwyddiant – nifer y bobol sy’n cynrychioli diwylliant y fro lle mae’r ŵyl wedi ei lleoli, a beth ydi’r llwyddiant o ran rhoi boddhad i bobol sydd eisio gweld pethau Cymraeg. Ehangu a dyfnhau’r profiad ydi’r syniad fan hyn.”

Roedd yna ychydig o fandiau Cymraeg y llynedd ar y llwyfan ‘Disg a Dawn’ gan Welsh Rare Beat nos Wener – gyda Meic Stevens a’r Niwl, Gruff Rhys, Euros Childs, Cate le Bon, Heather Jones, a’r DJs Dyl Mei, Huw Evans ac Andy Votel. “Hwyrach bod elfen o ddysgu o brofiad y llynedd, pa bethau oedd angen eu cryfhau a’u newid,” meddai Robin Llywelyn.

 Ehangu’r tocynnau lleol am bris rhatach

Mae perimedr y cylch o drigolion lleol a fydd yn gallu elwa ar docynnau rhatach yn ehangu eleni.

Fe fydd yn cynnwys y rheiny sy’n byw o fewn cod post LL41 (Blaenau Ffestiniog), LL48 (Minffordd, Penrhyndeudraeth, Llanfrothen a Chroesor), LL47 (Talsarnau, Cilfor a Llandecwyn), LL49 (Porthmadog), LL51 (Garndolbenmaen), a LL52 (Cricieth).

“Mae yna 15,000 o bobol yn byw yn yr ardal yna,” meddai Robin Llywelyn. “Mae gynnon ni docynnau penwythnos i bobol cod post o Gricieth, i’r Blaenau, Penrhyndeudraeth, Garndolbenmaen… bobman.”

Bydd y tocyn lleol i oedolyn yn costio £100, a £50 i bobol ifanc (bydd rhai o dan 10 yn cael mynd am ddim). Fe gewch hefyd brynu tocynnau o Bortmeirion ei hun eleni, gydag ID a phrawf o’ch cyfeiriad.

Yn 2012, dim ond y rheiny a oedd yn byw o fewn cod post LL47, LL48 ac LL49 oedd wedi gallu elwa ar y fraint yma.

 Stori: Non Tudur