Gyda 50 diwrnod i fynd tan i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ddechrau, mae arlwy Maes C eleni wedi ei gyhoeddi.

Fel y llynedd, fe fydd digwyddiadau Maes C yn cael eu cynnal  o amgylch y Maes yn hytrach nag mewn pafiliwn ar y maes carafanau, fel y bu’n digwydd am flynyddoedd.

* Fe fydd taith hanesyddol o gwmpas tafarndai tref Dinbych ar y nos Fawrth;

* Nos Fercher, bydd y Babell Lên  yn troi’n Babell Lon wrth i Daniel Glyn, Gary Slaymaker, Rhian ‘Madam Rygbi’ Davies, Phil Evans, Beth Angell, a Steffan Alun gynnal noson gomedi;

* Dathliad o ganeuon Bryn Fôn fydd nos Iau yn y Pafiliwn, gyda’r canwr yn cyflwyno cymysgedd o hen ffefrynnau a chaneuon newydd; 

* Nos Wener, fe fydd Edward H Dafis yn cynnal eu cyngerdd olaf un ar y llwyfan perfformio. Yna, bydd Maffia Mr Huws yn chwarae set hwyr ar y llwyfan, tra bydd y Stomp yn Babell Lên.  
 
* Bydd gweithgareddau Maes C yn gorffen nos Sadwrn ar y Llwyfan Perfformio gyda chyfle i ganu carioci gyda band byw. 

Apelio at gefnogwyr

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Dw i’n gobeithio y bydd rhaglen Maes C eleni’n apelio at ein cefnogwyr, ac yn bydd yn darparu nosweithiau a gweithgareddau ychydig yn wahanol yn ystod wythnos yr Eisteddfod. 

“Mae’r rhaglen yn amrywiol ac yn gymysgedd dda o gerddoriaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth a drama, a gobeithio bod rhywbeth yn y rhaglen a fydd yn apelio at bawb.”