Mae trigolion Tonypandy yn cael eu hannog i fod ar eu gwyliadwraeth rhwng bwrgleriaid. Mae hyn yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau yn yr ardal yn ddiweddar.

Oddi ar fis Mai 2013, mae yna naw achos wedi’i riportio, ac mae’r heddlu yn disgwyl i’r lladron i daro eto.

Mae un dyn a menyw wedi eu cyhuddo o ddau achos, tra bod yr heddlu yn parhau i ymchwilio i’r achosion eraill.

Mae’r dwyn wedi bod yn digwydd yn y dydd ac yn y nos. Fe gafodd car un dyn ei ddwyn ar ôl i’r allweddi gael eu cymryd o’r tŷ tra’r oedd yn cysgu i fyny’r grisiau.

Ond er hyn, mae’r heddlu’n dweud fod ffenestri’n cael eu gadael led y pen ar agor.

“Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi’n darged hawdd,” meddai’r Arolygydd Andy Jones.

“Fe allwch chi gloi drysau a ffenestri’r eiddo, siediau a garejys, a pheidio gadael nwyddau drud fel allweddi car neu liniadur yn y golwg.”