Carmel Napier
Mae cyn-Uwch Gwnstabl Heddlu Gwent, Carmel Napier wedi dweud na ddylai Comisiynwyr yr Heddlu gael ymyrryd yng ngwaith yr heddlu.
Cafodd hi ei gorfodi i ymddeol yn dilyn ffrae gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Ian Johnston.
Mewn datganiad prynhawn ma, dywedodd Carmel Napier nad oedd hi wedi cael penderfynu pryd y byddai’n ymddeol.
Galwodd ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno deddfwriaeth i egluro grym y Comisiynwyr wrth ddwyn pwysau arnyn nhw i ymddeol neu ymddiswyddo.
Dywedodd fod gan y Comisiynwyr ran allweddol i’w chwarae yn y broses o oruchwylio gwaith yr heddlu, ond na ddylen nhw fentro ymyrryd yn eu gwaith bob dydd.
Ychwanegodd y dylai’r Comisiynwyr aros yn annibynnol.
Y cefndir
Cafodd Carmel Napier ac Ian Johnston eu ffrae ddiweddaraf yr wythnos diwethaf tros ffigurau troseddau Gwent.
Dywedodd Ian Johnston wrth BBC Cymru heddiw na fyddai’r berthynas “fyth yn gweithio gan nad oedd un o’r partïon yn derbyn y syniad o gael comisiynwyr heddlu a throsedd”.
Daeth i’r amlwg fod dogfennau wedi dod i law papur newydd y South Wales Argus, yn dangos bod Ian Johnston wedi gofyn i Carmel Napier ymddeol.
Rhoddodd gyfle iddi “ymddeol o’i gwirfodd”, ond dywedodd y byddai’n ei diswyddo pe bai’n gwrthod ymddiswyddo erbyn Mehefin 3.
Roedd Ian Johnston yn dadlau ei bod hi wedi colli hyder y cyhoedd yng Ngwent a’i chydweithwyr.
Penderfynodd Carmel Napier ymddeol ar Fehefin 7, wedi ychydig dros ddwy flynedd yn y swydd.
Yn dilyn ei hymddeoliad, dywedodd AS Llafur Dwyrain Casnewydd, Paul Flynn fod y mater yn “peri pryder dybryd”.
Galwodd AS Blaenau Gwent, Nick Smith ar Ian Johnston i gyhoeddi tystiolaeth er mwyn cefnogi ei benderfyniad i orfodi Carmel Napier i ymddeol.