Pompeii Llun: Amgueddfa Brydeinig
Fe fydd yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain yn ffrydio ei arddangosfa ‘Life and Death in Pompeii and Herculaneum’ i dros 1,000 o sinemâu ar draws y byd.

Mae’r arddangosfa yn edrych ar fywyd Rhufeinig cyn ffrwydrad folcanig dinistriol bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Fe fydd yr arddangosfa yn cael ei dangos mewn 17 o sinemâu yng Nghymru gan gynnwys, Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Llandudno,  Wrecsam a Llanfair-ym-muallt, ar nos Fawrth, 18  Mehefin.

Yn ôl Neil MacGregor, cyfarwyddwr yr Amgueddfa: “Mae’r math hwn o ddarlledu arloesol – rhywbeth y byddai’n anodd dychmygu pum mlynedd yn ôl – wedi agor ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth a rhoi mynediad at wahanol eitemau i gynulleidfaoedd boed yn oedolion neu’n bobl ifanc.”

Mae’r trefnwyr yn dweud bod bron i 70% o docynnau (tua 20,000) ar gyfer y ffrwd byw wedi gwerthu’n barod.

Mae’r arddangosfa ei hun, sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig tan Fedi 29, yn cynnwys dwsinau o eitemau a ddarganfuwyd o adfeilion Pompeii a Herculaneum, dwy ddinas ym Mae Napoli a gafodd eu dinistrio gan ffrwydrad Mynydd Vesuvius yn 79AD.