Rihanna
Bydd y gantores, Rihanna, yn dechrau ei chymal Prydeinig o’i thaith fyd eang yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd heno.

Mae disgwyl i 60,000 o bobl  heidio i’r brifddinas i weld y ferch o Barbados ac mae rhybuddion y gall hynny amharu ar y traffig.

Mae disgwyl i Stryd Westgate, ger y stadiwm, gau am 4:30yp a bydd strydoedd eraill hefyd yn cau o 6yp tan hanner nos.

Mae cwmni trennau First Great Western wedi trefnu 5 trên ychwanegol i fynd a phobl adref o’r gyngerdd.

Mae Trenau Arriva Cymru hefyd wedi trefnu trenau ychwanegol ac mae Cyngor Caerdydd yn annog gyrwyr i ddefnyddio eu cyfleusterau Parcio a Theithio.

Meddai Alex Luff, rheolwr gwerthiant Stadiwm Mileniwm Cymru: “Disgwylir i ddegau o filoedd ddod i’r brifddinas pan fydd Rihanna yn dod â’i thaith ‘Diamonds’ i Gaerdydd.

“Rwy’n annog pawb sydd â thocynnau i ymgyfarwyddo â’r gwasanaethau teithio cyhoeddus ychwanegol sydd ar gael ac i gynllunio eu taith yn ofalus.”

Bydd drysau’r stadiwm yn agor am 4.30yp. Mae Rihanna, sydd eisoes wedi perfformio mewn mwy na 30 o ddinasoedd ar draws Gogledd America ac Ewrop, yn teithio i Fanceinion, Llundain, Birmingham a Sunderland ar ôl chwarae yng Nghaerdydd.