Deerhunter
Mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi enwau’r 50 band cyntaf fydd yn chwarae yn yr ŵyl yng Nghaerdydd eleni.

Mae’r ŵyl 4 diwrnod yn ei seithfed flwyddyn ac eleni bydd yn cael ei chynnal rhwng dydd Iau, 17 Hydref hyd at ddydd Sul, 20 Hydref.

Daeth dros 5,000 o bobl i’r brifddinas i weld dros 200 o fandiau a DJs y llynedd.

Ymysg y bandiau sydd wedi cael eu cyhoeddi mae’r band electro pop Everything Everything  a Deerhunter o’r Unol Daleithiau.

Ymysg y dalent Gymraeg fydd yn chwarae yn yr ŵyl eleni mae Trwbador, Aled Rheon, Casi Wyn, Keys, Kissy Krawford a We Are Animal.

Eleni hefyd bydd llond lle o leoliadau newydd yn rhan o’r ŵyl gan gynnwys Gwesty’r Angel yng nghanol y ddinas; theatr Sherman Cymru a marchnad hen greiriau Jacobs Market.

Er mwyn gweld yr holl fandiau sydd wedi cael eu henwi heddiw yn ogystal â gwybodaeth am docynnau, ewch i: swnfest.com