Richard & Adam o Dreffynnon
Mae’r cerddor a daflodd wyau at Simon Cowell yn ystod rownd derfynol y gyfres Britain’s Got Talent nos Sadwrn wedi dweud ei bod hi wedi gwneud hynny mewn protest yn erbyn ei “ddylanwad ofnadwy” ar y diwydiant cerddoriaeth.

Roedd dros 13 miliwn o bobl yn gwylio’r rhaglen ar ITV pan ddaeth Natalie Holt, sy’n canu’r fiola, ar y llwyfan a thaflu wyau at y beirniaid yn ystod deuawd gan y brodyr o Dreffynnon, Richard ac Adam.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Sun, ymosododd Natalie Holt ar y rhaglen am wneud i berfformwyr feimio.

Yn ôl adroddiadau, roedd Natalie Holt wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn 2012.

Ymddiheurodd yn ddiweddarach  i Richard ac Adam am daflu cysgod dros eu perfformiad gan ddweud:  “Dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen ac wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli ei fod yn beth gwirion i’w wneud.”

Y grŵp dawns cysgod o Hwngari, Attraction, enillodd y gystadleuaeth a’r cyfle i berfformio o flaen y Frenhines yn y Royal Veriety Performance.