Matthew Rhys yn yr Eisteddfod y llynedd
Dywed yr actor Matthew Rhys mai ei freuddwyd yw actio Llywelyn ein Llyw Olaf mewn ffilm debyg i Braveheart ar gyfer y sgrin fawr.
Llywelyn oedd tywysog olaf Cymru cyn iddo gael ei ladd yng Nghilmeri yn 1282 a arweiniodd at y goncwest gan y Sais Edward I.
Arwain rhyfel yn erbyn Edward I a wnaeth William Wallace hefyd, a gafodd ei actio gan Mel Gibson yn y ffilm enwog Braveheart.
“Mae hanes Llywelyn, tywysog go iawn olaf Cymru, yn stori debyg iawn i Braveheart,” meddai Matthew Rhys, sy’n gobeithio ceisio annog ffilm o’r fath ymhen ychydig flynyddoedd.
“Er mwyn osgoi bod yn ‘Braveheart Cymreig’, mae angen ychydig flynyddoedd yn rhagor am gynulleidfa newydd,” meddai. “Roedd Braveheart bron 18 mlynedd yn ôl, felly dw i’n meddwl y gallai fod gennych gynulleidfa’n barod amdani mewn ychydig flynyddoedd.”
Mae’r actor 38 oed wedi dychwelyd o’i gartref yn Los Angeles yn ddiweddar i weithio ar gyfres ddrama newydd y BBC sy’n cael ei ffilmio yn Sir Efrog. Ef sy’n chwarae rhan Mr Darcy yn y ddrama sy’n seiliedig ar Pride and Prejudice, Death Comes to Pemberley.