Alys Williams
Colli oedd hanes Alys Williams o Gaernarfon wrth gystadlu am le yn rowndiau cyn-derfynol The Voice.

Ond dywedodd Syr Tom Jones mai ganddi hi oedd “y llais cynhesaf a mwyaf secsi” yn yr holl sioe.

Roedd y fam ifanc o Gaernarfon wedi dewis Syr Tom Jones i’w mentora yn ystod y gystadleuaeth.

Roedd y canwr byd-enwog o Bontypridd yn dathlu ei benblwydd yn 73 oed ar y rhaglen neithiwr, a oedd yn cael ei darlledu’n fyw am y tro cyntaf.

Y tri arall i golli eu lle yn y gystadleuaeth oedd Leanne Jarvis, Sarah Cassidy a Mitchell Emms.