Mae dyn 23 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio dynes o Aberdâr a’i mam mewn tŷ yn Cumbria dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i gyrff Kathryn Jenkin, 20 oed, o Aberdâr, a’i mam Alice McMeekin, 58, mewn tŷ teras yn Stryd Newton, Millom fore dydd Sadwrn.

Credir bod y dyn sydd wedi ei arestio yn perthyn i’r ddwy ac nad yw Heddlu Cumbria yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r drosedd.