Mae'r Cynghorydd Ioan Thomas wedi galw am ddysgu gwersi
Mae Cyngor Gwynedd yn ymchwilio wedi i blant ifanc weld llun o ddynes noeth ar gyfrifiadur yn Ysgol Gynradd Cae Top yn ninas Bangor.

Y bore yma bu un o lywodraethwyr yr ysgol ar Radio Cymru yn cwyno fod bechgyn wedi medru chwilio am y llun, a bod ei ferch yntau wedi gweld y ddelwedd bornograffig.

Yn ôl y llywodraethwr roedd tri hogyn ifanc wedi cael mynediad i’r llun trwy deipio ‘XXX’ ym mheiriant chwilio’r cyfrifiadur tra yn y dosbarth.

Dywedodd y llywodraethwr y dylai Cyngor Gwynedd fod yn gosod ffilter llym i rwystro mynediad i wefannau anweddus. Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar iawn i staff yr ysgol am ddelio â’r mater mor gyflym.

Y broblem wedi ei datrys

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau wrth golwg360 nad ydy hi bellach yn bosib i blant ysgol deipio ‘XXX’ i gyfrifiaduron a gweld lluniau anweddus.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ioan Thomas, sy’n gyfrifol am y mater ar Gabinet Gwynedd: “Cafodd nam ei adnabod yn y meddalwedd yma ddoe. Cyn gynted ag y daeth hyn i’n sylw, cysylltom gyda’r cwmni meddalwedd a weithredodd ar unwaith i ddelio gyda’r sefyllfa.

“Mae hwn yn ddigwyddiad difrifol ac mae cefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd wedi ei effeithio. Rydym yn parhau i weithio gyda’r darparwr meddalwedd er mwyn darganfod sut yn union ddigwyddodd y broblem yma.

“Fel yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am faterion technoleg gwybodaeth, rwyf wedi gofyn i’r adran gynnal adolygiad o’n trefniadau i weld pa wersi sydd i’w dysgu ac i weithredu arnynt yn syth.”

Comisiynydd Plant

Mewn ymateb i’r digwyddiad dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, bod angen cadw plant yn ddiogel pan maen nhw’n defnyddio’r We.

“Rydyn ni i gyd yn rhan o dirlun digidol sy’n newid o hyd,” meddai Keith Towler.

“Mae’n hanfodol bod pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel, ei fod e ddim yn rhywbeth brawychus, a’u bod nhw’n gwybod sut i ddiogelu eu hunain ar-lein. I wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd, mae angen i ni ddeall sut mae plant yn defnyddio’r We. Mae casglu’r wybodaeth yna yn rhan hanfodol o amddiffyn plant a phobl ifanc a’u grymuso i fod yn ddiogel ar-lein.”