Yr Wylfa wreiddiol
Mae melinau gwynt yn creu ynni’n llawer iawn rhatach nag atomfeydd niwclear, ac mi fyddai rhoi arian cyhoeddus yn sybsidi i godi atomfeydd yn “waeth na’r ffiasgo PFI”.

Dyna neges Dr Gerry Wolff o Borth Aethwy i Bwyllgor Archwilio’r Amgylchedd San Steffan.

Dr Wolff yw cydlynydd y felin syniadau (think tank) sydd wedi cynnal ymchwil fanwl i gostau ynni niwclear.

“Mae ynni niwclear yn gwbl aneconomaidd,” meddai Dr Wolf sy’n dadlau bod melinau gwynt yn y môr yn ffordd ratach a glanach o greu ynni.

“Yn awr mae yna ddigonedd o dystiolaeth bod ynni adnewyddadwy yn llawer rhatach nag ynni niwclear (gan ystyried yr holl sybsidis), maen nhw’n gallu darparu gwell sicrwydd o ynni, maen nhw’n llawer mwy effeithiol wrth gwtogi ar lygredd, fedran nhw gael eu codi’n gyflymach nag atomfeydd niwclear, gallan nhw gwrdd â’n holl anghenion ynni, yn awr ac yn y dyfodol rhagweladwy, ac maen nhw’n dod heb lawer o broblemau ynni niwclear.”

Wylfa B i greu swyddi

Ond mae’r rhai sydd o blaid codi ail atomfa niwclear – Wylfa B – ym Môn yn dadlau y byddai’r prosiect yn creu gwaith adeiladu i 6,000 o weithwyr ac yn cadw 500 o swyddi parhaol ar yr ynys, sydd ymysg y llefydd tlotaf ym Mhrydain.