Mae’r Urdd eisiau denu 20,000 yn rhagor o bobol i’w Heisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, meddai Prif Weithredwr y mudiad.
Ac mae Efa Gruffudd Jones wedi gwrthod honiadau fod problemau tros safonau beirniadu – dim ond tuag 20 o gwynion swyddogol sy’n cael eu gwneud bob blwyddyn am tuag “20,000 o benderfyniadau”.
“Fel arfer, mae’n fater o chwaeth beirniad,” meddai, gan ddweud y bydd Bwrdd yr Eisteddfod yn ystyried sylwadau sydd wedi eu gwneud, a hynny ym mis Mehefin.
Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod ym Moncath, Sir Benfro, yr wythnos nesa’ i drafod adroddiad datblygu a grëwyd gan weithgor dan gadeiryddiaeth y barnwr, Nic Parri.
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.