Siôn Richards yn arwain gweithdy gyda chriw Ysgol Preseli
Siôn Richards sy’n edrych ymlaen at weithio gyda disgyblion Ysgol Preseli mewn partneriaeth arbennig rhwng yr Ysgol a Golwg360 yn Eisteddfod yr Urdd wythnos nesaf.
Dros gyfnod Eisteddfod yr Urdd bydd Golwg360 yn gweithio mewn partneriaeth â disgyblion o Ysgol y Preseli er mwyn sicrhau gohebiaeth drylwyr a gwahanol o faes yr eisteddfod ym Moncath.
Bwriad y prosiect yw datblygu sgiliau creadigol a digidol y disgyblion, a thrwy weithio gyda Golwg360 y bwriad yw datblygu profiad y disgyblion yn y gweithle fel newyddiadurwyr, ymchwilwyr, casglwyr gwybodaeth a chynhyrchwyr aml- gyfrwng (h.y. ffotograffiaeth a fideos).
O safbwynt Golwg360, y gobaith yw defnyddio dealltwriaeth a gwybodaeth y disgyblion o’r ardal leol wrth sylwebu o faes yr Urdd a thu hwnt, gan ddeall a chydnabod yr hyn sy’n bwysig i unigolion yn y gymdeithas leol.
Bydd hyn yn sicrhau gwasanaeth amrywiol ac eang o’r Urdd ar Golwg360.
Gyda chymorth y disgyblion byddwn yn gallu cynhyrchu sylwebaeth gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r gymuned, gan hefyd darlledu gwybodaeth o ddiddordeb i weddill dilynwyr yr Urdd o amgylch Cymru.
Karen Owen yn arwain gweithdy newyddiadura gyda chriw Ysgol Preseli
Gweithdai gwerthfawr
Rydym eisoes wedi cynnal gweithdai gyda’r disgyblion er mwyn datblygu technegau ymarferol cynhyrchu. Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar ystod eang o ffactorau megis gwerthoedd newyddiaduraeth a’r grefft o adrodd stori.
Bu’r newyddiadurwraig, Karen Owen yn hyfforddi rhai o’r disgyblion ynglŷn â sgiliau newyddiaduraeth, a’r grefft o greu stori newyddion grefftus.
Roedd Rhys Jones, aelod o dîm Golwg360 yn hyfforddi’r disgyblion ar sut i gasglu gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau o’r maes a chanlyniadau’r cystadlu.
Roeddwn innau, Siôn Richards, yn trafod technegau cynhyrchu cyfweliadau ac eitemau ffilm digidol ar gyfer y we, gan hefyd gosod tasgau ymarferol gyda chamerâu fflip ac iPad’s yr ysgol.
Gwaith cartref
Bu’r sesiynau yn llwyddiant, a gosodwyd tasg gwaith cartref i’r disgyblion dros y penwythnos er mwyn parhau â’r gwaith ymarfer. Y dasg oedd cynhyrchu clipiau fideo byr yn seiliedig ar y gymuned leol ac impact yr Eisteddfod arni, gydag enghreifftiau i’w cyhoeddi ar Golwg360.
Dyma ddau o’r clipiau:
Gobeithio bydd y disgyblion yn gweld gwerth i’r prosiect, gan ehangu eu profiad ym maes y cyfryngau a hefyd magu hyder yn y gweithle.
Yn sicr bydd defnydd gwybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion o’r ardal yn werthfawr i sylwebaeth Golwg360 o’r Eisteddfod!
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod byddwn yn cynhyrchu pecynnau newyddion fideo o’r maes, wrth ddarlledu digwyddiadau a bwrlwm y maes ar gymuned – y rhain wedi eu cyd gynhyrchu gan y disgyblion a thîm Golwg360.
Prosiect cyffrous felly i ddisgyblion Ysgol y Preseli a Golwg360 – cadwch olwg ar ei ddatblygiad dros yr wythnos nesaf!
Bydd eitemau o Eisteddfod yr Urdd yn ymddangos ar hafan Golwg360 yn ystod wythnos yr eisteddfod ond os ydych yn mynd i’r maes mae modd dilyn y diweddaraf ar eich dyfais symudol ar dudalen yma, ac ar sgriniau mawr Golwg360 ar y maes.