John Griffiths AC
Mae’r Gweinidog Treftadaeth, John Griffiths, wedi tanlinellu ei gefnogaeth i’r celfyddydau yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll.
Dywedodd bod y sector greadigol yn gwneud “cyfraniad gwych” i economi’r wlad a bod Gŵyl y Gelli yn profi hyn yn flynyddol.
“Yn wir mae pobl am weld, ac efallai angen, y celfyddydau yn fwy mewn cyfnod anodd,” meddai.
“Mae’r celfyddydau’n meithrin ymdeimlad o les, yn cefnogi ein cymdeithas ac adfywio’n cymunedau drwy adfer balchder a gwneud Cymru’n lle gwell i wneud busnes, byw a gweithio.”
Un o brif atynyiadau’r ŵyl eleni fydd darlith gan Hans Blix fu’n gyfrifol am y tîm o archwilwyr oedd yn chwilio am arfau dinistriol yn Irac cyn y rhyfel yno.
Bydd y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn ymweld â’r ŵyl heddiw hefyd, cyn mynd ymlaen i’r opera yng Nghaerdydd.