Betsan Powys (llun BBC)
Betsan Powys fydd Golygydd Rhaglenni nesa’ Radio Cymru.
Fe fydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach heddiw.
Fe fydd y newyddiadurwraig yn symud o fod yn Olygydd Newyddion BBC Cymru i gymryd yr Awena yn yr orsaf sydd newydd gael ei ffigurau gwrando chwarterol isa’ erioed.
Mae Betsan Powys, sy’n dodo o Gaerdydd, ac yn ferch i gyn bennaeth y BBC yng ngogledd Cymr, R. Alun Evans, hefyd wedi cyflwyno rhaglenni rhwydwaith fel Panorama.
‘Heriol’ meddai Sian Gwynedd
Fe fydd hi’n gweithio dan Sian Gwynedd, pennaeth rhaglenni Cymraeg y Gorfforaeth.
“Mae’n gyfnod heriol i Radio Cymru ond rydw i’n ffyddiog bod gan Betsan y sgiliau a’r profiad i ymgymryd yn egnïol â’r sialensau sy’n wynebu’r orsaf,” meddai Sian Gwynedd.
“Rydw i’n edrych ymlaen at ei gweld hi’n rhoi ei stamp ei hun ar y gwahanol raglenni a sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i’r gynulleidfa yn berthnasol ac o’r safon uchaf.”