Mae cwmnïau teledu annibynnol wedi ymuno gydag aeloda seneddol i rybuddio Llywodraeth Prydain rhag torri rhagor ar gyllideb S4C.

Mae chwech AS, o sawl plaid, wedi arwyddo Cynnig Ben Bore yn galw am sicrhau  arian cyson a sefydlog i’r sianel.

Yn awr mae mudiad TAC – Teledwyr Annibynnol Cymru – wedi galw ar unigolion a chyrff i sgrifennu at eu haelodau seneddol yn yn gofyn iddyn nhwthau gefnogi’r cynnig.

Yn ôl Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick, yr ofn yw y bydd argyfwng ariannol y Llysodraeth yn arwain at ragor o doriada – gan ddilyn cyhoeddiadau am doriadau o 1% ac wedyn 2% yn ystod y chwe mis diwetha’.

Er bod y rhan fwya’ o arian y sianel yn dod trwy drwydded y BBC ac wedi ei ddiogelu tan 2017, mae tuag £8 miliwn arall yn dod gan yr Adran Ddiwylliant yn San Steffan a does dim sicrwydd tymor hir am hwnnw.

‘Pryderus’

“Mae TAC yn bryderus iawn am y posibilrwydd o ragor o gwtogi i gyllideb S4C,” meddai  Iestyn Garlick.

Mae’r cynnig yn y senedd – ffordd i ASau fynegi barn – yn rhybuddio bod angen i S4C gael trefn gyllido sefydlog a chynaliadwy.

Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sydd wedi gosod y cynnig.