Yr wythnos yma, mae plant o saith o ysgolion cynradd Sir Ddinbych yn crwydro coedydd yn eu hardal ac yn dysgu am werth coed.

Yna, yn ystod y misoedd nesaf, bydd y plant yn troi eu profiadau yn farddoniaeth o dan arweiniad y Prifardd Twm Morys ac mi fyddan nhw yn cyflwyno’r gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Menter ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol ydi cynllun barddoniaeth ‘natur ein cymuned’.

300 o blant

Bydd mwy na chant o blant yn ymuno â thîm addysg Cyfoeth Naturiol Cymru i ymweld â Choed Rhyd y Gaseg ger Rhuthun, Coed y Morfa, Prestatyn a Choed Shed ger y Groes, Dinbych.

Yn ôl Ffion Hughes, arweinydd tîm addysg Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae llonyddwch go iawn i’w gael yn ein coedlannau lleol ni, yng nghanol natur – peth pwysig iawn yn y byd cythryblus sydd ohoni.”

Wrth ymweld a’r coedwigoedd bydd y plant edrych ar y lle trwy lygaid y creaduriaid sy’n byw yno. Mi fyddan nhw’n chwarae gêm i ddangos sut mae coed yn tyfu ac yn ceisio cydgerdded fel neidr gantroed.

Ysbrydoliaeth

Ychwanegodd Ffion Hughes: “Rydan ni’n gobeithio y bydd darganfod natur fel hyn ar stepen eu drws yn ysbrydoliaeth i’r plant”

Dywedodd Twm Morys: “Difyrrwch bob amser ydi helpu plant i fynegi eu teimladau drwy farddoniaeth, yn enwedig wrth sôn am eu bro eu hunain. Mae’n ffordd iddyn nhw fagu hyder ynddyn’ eu hunain.”

Bydd y plant ymhlith y perfformwyr cyntaf yn Eisteddfod Dinbych ddechrau Awst, yn cyflwyno eu cerddi yn y Babell Lên (dydd Sadwrn 3 Awst).