Fe fydd yr amddiffyniad yn achos y dyn sydd wedi’i gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones o Fachynlleth yn parhau heddiw.
Mae Mark Bridger, 47, yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac fe fydd e’n parhau i roi tystiolaeth yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw.
Wrth roi tystiolaeth ddoe, fe ddywedodd nad oedd e’n cofio beth wnaeth e gyda chorff April.
Dywedodd ei fod e wedi taro’r ferch fach gyda’i gar ond nad oedd e’n cofio llawer o’r manylion oherwydd ei fod e wedi bod yn yfed yn drwm.
Clywodd y llys ei fod e wedi dweud celwydd wrth yr heddlu am wasanaethu gyda’r lluoedd arfog.
Fe gyfaddefodd fod y cyfan yn gelwyddau wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr, Brendan Kelly QC.
Clywodd y llys fod ganddo hanes o droseddu, ond nad yw e wedi’i ganfod yn euog o unrhyw droseddau rhyw.
Dywedodd fod ganddo gollfarnau am geisio dwyn car, gyrru heb yswiriant, gyrru tra ei fod e wedi’i wahardd, bod ag arf yn ei feddiant, bod ag arf ffug yn ei feddiant, lladrata a chaffael eiddo trwy dwyll ddwywaith.
Clywodd y llys hefyd ei fod e wedi pledio’n euog i bob cyhuddiad.
Trafododd hanes ei berthnasau gyda menywod, gan gynnwys dynes oedd yn chwaer i gariad Paul Jones – tad April – ar y pryd.
Amlinellodd hanes ei yrfa, a chlywodd y llys ei fod e wedi bod yn gweithio mewn canolfannau hamdden, cwmni gosod camerâu cylch cyfyng a lladd-dy.
Mae’n gwadu bod y delweddau pornograffig a gafodd eu darganfod ar ei gyfrifiadur wedi cael eu defnyddio ganddo er pleser rhywiol.
Mae’r achos yn parhau.