Alun Davies
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Llywodraeth Cymru, Alun Davies, wedi estyn gwahoddiad i ffermwyr a gafodd eu heffeithio gan y tywydd garw diweddar i siarad ag ef mewn cyfarfod cyhoeddus yn Y Bala heno.

Bydd y cyfarfod sy’n cael ei gadeirio gan Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol a’r AC dros Dwyfor Meirionnydd, yn cael ei gynnal yn Ysgol y Berwyn yn y Bala am 7yh, heno (nos Iau).

Yn ogystal â rhoi’r cyfle i’r ffermwyr roi eu barn, bydd cynrychiolwyr o Cyswllt Ffermio, y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm ac elusennau ffermio yno hefyd i gynnig cymorth i’r ffermwyr.

Meddai Alun Davies: “Rwyf wedi ymweld â ffermwyr a’u teuluoedd yn ystod yr wythnosau diwethaf ac wedi gweld drosof fy hun yr effaith y mae’r tywydd garw wedi ei gael ar gymunedau ffermio mewn rhannau o Gymru.

“Mae gen i ystod o fesurau i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio drwy’r cyfnod anodd hwn, ond yr wyf yn gwybod bod nifer o bobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r canlyniadau ariannol ac emosiynol y tywydd garw diweddar.”

Rhaglen gymorth

Fe wnaeth yr adran amaeth yn Lloegr gyhoeddi bod £250,000 ar gael i ffermwyr tuag at y gost o gael gwared ar gyrff defaid a fu farw yn yr eira yn gynharach eleni.

Yng Nghymru roedd Alun Davies wedi penderfynu peidio rhoi arian yn uniongyrchol i ffermwyr gan ddweud fod “yn rhaid i’r diwydiant symud i ffwrdd oddi wrth ddibyniaeth ar arian cyhoeddus.”

Ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru amlinellu rhaglen o gymorth i ffermwyr  a gafodd eu heffeithio. Roedd hyn yn cynnwys:

–          Rhoi rhagor o amser i ffermwyr gladdu eu hanifeiliaid

–          Casglwyr ychwanegol ac oriau gyrru estynedig i helpu gyda chasglu stoc sydd wedi marw.

–          £ 500,000 ar gyfer elusennau sy’n helpu ffermwyr

Ychwanegodd Alun Davies: “Mae’r cyfarfod hwn yn rhoi cyfle i mi siarad yn uniongyrchol gyda phobl ac rwy’n awyddus i glywed am eu profiadau ac yn enwedig am eu syniadau am sut y gallai llywodraeth a busnesau ffermio unigol weithio gyda’i gilydd yn y dyfodol.”