Fe fydd gweithwyr mewn swyddfeydd post y Goron ledled Prydain yn streicio heddiw yn erbyn cyflogau isel, colli swyddi a chau swyddfeydd.
Hon yw pedwaredd streic yr undeb mewn ychydig wythnosau.
Fe fydd gweithwyr mewn 18 o swyddfeydd post yng Nghymru yn ymuno yn y streic.
Gallai cannoedd o swyddi gael eu colli o dan y cynlluniau, ac mae’r undeb yn dweud nad yw ei gweithwyr wedi derbyn codiad cyflog ers dros ddwy flynedd.
Mae un o swyddfeydd post y Goron yn Y Fenni.
Yn ôl adroddiadau, mae swyddfeydd o’r fath yn colli hyd at £40 miliwn y flwyddyn, a dywed yr undeb fod y cwmni’n ceisio ymateb i ofynion Llywodraeth Prydain.
‘Swyddi’
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol CWU, Dave Ward: “Fe wnaeth y llywodraeth addo na fyddai rhaglen o gau swyddfeydd post, ond fe fyddai’r cynlluniau hyn yn torri 20% o rwydwaith y Goron.
“Dydy’r cynnig cyflog ddim byd tebyg i’r hyn y mae Swyddfa’r Post yn ceisio’i gyfleu.
“Mae’n ddibynnol ar dderbyn cau 76 o swyddfeydd post y Goron a thros 800 o swyddi’n cael eu colli.
“Mae’r ail a’r trydydd swm o arian yn ddibynnol ar dargedau anghyraeddadwy felly mae’n annhebygol y byddan nhw fyth yn cael eu talu.
“Hyd yn oed os ydyn nhw’n cael eu talu, fe fydden nhw’n sylweddol is na’r ffigwr gafodd ei gyhoeddi gan fod llawer o weithwyr yn rhan-amser ac fe fydd cannoedd wedi colli eu swyddi.
“Mae Swyddfa’r Post a’r Llywodraeth yn anwybyddu dymuniadau a safbwyntiau pobol sy’n gweithio yn rhwydwaith y Goron a’r cwsmeriaid sy’n gwerthfawrogi’r swyddfeydd post hyn.”
‘Trafod’
Yn ôl yr undeb, pleidleisiodd 90% o’i haelodau o blaid streicio, ac mae “degau o filoedd” wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau’r llywodraeth.
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n credu’n gryf y gellir dod o hyd i ateb pe bai Swyddfa’r Post yn fodlon eistedd a thrafod i gael ateb ystyrlon ac un y gellir cytuno arno.
“Dydy palu ymlaen a digio’u staff a’u cwsmeriaid ymhellach yn dda i neb.”