April Jones
Fe fydd un o ffrindiau April Jones yn rhoi tystiolaeth heddiw yn yr achos yn erbyn dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ferch 5 oed.
Roedd y ffrind yn chwarae gyda April pan ddiflannodd ger ei chartref ym Maes y Gog, Machynlleth ar 1 Hydref y llynedd.
Mae disgwyl i’r plentyn roi tystiolaeth trwy gyswllt fideo.
Mae Mark Bridger, 47, o Geinws ger Machynlleth, yn gwadu cipio a llofruddio April Jones ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe fydd yr achos yn ail-ddechrau yn Llys y Goron yr Wyddgrug bore ma.
Ddydd Gwener fe glywodd y llys sut yr oedd rhieni April Jones wedi clywed am ddiflaniad eu merch.
Diflaniad April
Mewn datganiad i’r llys, dywedodd Coral Jones bod April wedi cael mynd allan i chwarae ar ei beic, ond pan ddechreuodd dywyllu roedd hi am i April ddod yn ôl i’r tŷ, ac fe anfonodd frawd April i chwilio amdani.
Pan ddaeth yn ôl, dywedodd bod April wedi cael ei gweld yn mynd i mewn i gerbyd gyda dyn.
Fe ffoniodd Coral Jones yr heddlu cyn mynd gyda’i gŵr i chwilio am April ar y stad.
Roedd y rheithgor wedi ymweld â Machynlleth ddydd Iau i weld rhai o’r safleoedd allweddol yn yr achos, gan gynnwys cartref Mark Bridger.
Mae’r erlyniad yn honni bod cymhelliad rhywiol i’r ymosodiad ar April Jones a bod gan Mark Bridger ddiddordeb mewn pornograffi plant. Cafwyd hyd i olion gwaed yn ei fwthyn, sy’n cyfateb i DNA April Jones.
Mae Mark Bridger wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi taro April gyda’i gar trwy ddamwain, a’i fod wedi ei rhoi yn ei gar ond nad yw’n cofio beth wnaeth gyda’i chorff.
Mae’r achos yn parhau.