Yr FBI yn chwilio'r ty yn Cleveland, Ohio
Mae tair dynes oedd wedi diflannu bron i ddegawd yn ôl wedi cael eu darganfod yn fyw yn Cleveland, Ohio.
Roedd y merched wedi cael eu dal yn gaeth mewn tŷ yno.
Mae tri brawd wedi cael eu harestio.
Roedd un o’r merched wedi gwneud galwad ffôn brys i’r heddlu gan ddweud bod y person oedd wedi ei chipio wedi mynd, ac fel apeliodd ar yr heddlu i’w rhyddhau gan ddweud “dwi’n rhydd nawr”.
Fe ddiflanodd Amanda Berry, Gina DeJesus a Michelle Knight pan oeddan nhw yn eu harddegau neu 20au mewndigwyddiadau ar wahan rhwng 2002 a 2003. Mae’n debyg bod y tair yn iach ond fe gawson nhw eu cludo i’r ysbyty am brofion a chyfle i gwrdd â pherthnasau nad ydyn nhw wedi gweld ers deng mlynedd.
Cafwyd hyd i blentyn 6 oed yn y tŷ hefyd. Credir bod un o’r brodyr, 52 oed, yn byw yn y tŷ. Nid yw’r heddlu wedi rhyddhau unrhyw fanylion eraill.