Jimmy Tarbuck
Mae’r comedïwr Jimmy Tarbuck wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol, yn ôl ffynonellau.

Cafodd Jimmy Tarbuck, 73 oed, ei holi gan yr heddlu yng Ngogledd Swydd Efrog ar 26 Ebrill mewn cysylltiad â digwyddiad honedig yn ymwneud a bachgen ifanc yn Harrogate, Swydd Efrog, yn y 70au.

Nid oedd enw’r comedïwr wedi cael ei ddatgelu nes i’r Daily Mail gyhoeddi ei enw neithiwr.