Prestatyn 3–1 Bangor

Prestatyn yw pencampwyr Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes wedi iddynt drechu Bangor ar y Cae Ras yn Wrecsam brynhawn Llun.

Rhoddodd Jason Price Brestatyn ar y blaen yn gynnar ond bu rhaid chwarae amser ychwanegol yn dilyn gôl i’w rwyd ei hun gan Chris Davies yn yr ail hanner. Derbyniodd Michael Johnston gerdyn coch i Fangor yn gynnar yn y cyfnod ychwanegol a manteisiodd Prestatyn yn llawn gan sgorio dwy gôl arall i ennill y gêm.

Hanner Cyntaf

Aeth Prestatyn ar y blaen wedi llai na thri munud diolch i gôl Price. Methodd Lee Idzi yn y gôl ddal croesiad Chris Davies a phan groesodd Ross Stephens yn bêl yn ôl ar draws y cwrt chwech roedd Price yno yn barod i rwydo.

Dylai Bangor fod wedi unioni ychydig funudau’n ddiweddarach pan ddyfarnwyd cic o’r smotyn braidd yn hallt yn erbyn Anthony Stephens am wthiad, ond arbedodd Jon Hill-Dunt yn arbennig o gic Dave Morley.

Ond er cystal yr arbediad hwnnw, roedd un gwell fyth i ddod gan gôl-geidwad Prestatyn yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf. Roedd peniad Les Davies yn anelu’n syth at gornel uchaf y rhwyd cyn i seren y gêm, Hull-Dunt, hyrddio’i hun ar draws y gôl i’w harbed.

Ail Hanner

Roedd Bangor yn well wedi’r egwyl ac roeddynt yn llawn haeddu unioni’r sgôr toc cyn yr awr er nad un o’i chwaraewyr nhw roddodd y bêl yn y rhwyd. Anelodd Chris Simm ergyd ar draws y gôl a gwyrodd, Chris Davies, un o chwaraewyr gorau’r gêm, y bêl i’w rwyd ei hun.

Bu Idzi yn effro i atal Michael Parker yn y pen arall dri munud yn ddiweddarach ond Bangor oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio wedi hynny.

Daeth Ryan Edwards yn agos gydag ergyd gywir o bellter ond cafodd ei atal gan arbediad gwych arall gan Hill-Dunt, ac yna peniodd Les Davies heibio’r postyn ym munudau olaf y naw deg.

Amser Ychwanegol

Doedd dim amdani felly ond amser ychwanegol a bu rhaid i Fangor chwarae rhan helaeth o hwnnw gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch i’r amddiffynnwr canol, Michael Johnston.

Sgoriodd Andy Parkinson yn uniongyrchol o’r gic rydd ganlynol er bod honno o ongl dynn iawn ac roedd talcen caled iawn yn wynebu’r Dinasyddion.

Methodd y deg dyn a chreu llawer yn yr ail gyfnod ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i Brestatyn wedi i Price rwydo ei ail o’r gêm. Cafwyd cyd chwarae da ac ychydig o lwc rhyngddo ef a Parkinson ar ochr y cwrt cosbi ac anelodd y blaenwr profiadol y bêl i’r gornel uchaf.

Doedd dim amheuaeth amdani wedyn, roedd Prestatyn wedi ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed, a byddant o ganlyniad yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.

Ymateb

Neil Gibson, chwaraewr reolwr Prestatyn:

“Mae hyn yn golygu popeth i bawb yn ein hystafell newid, yn staff ac yn chwaraewyr. Rydym wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu Clwb Pêl Droed Prestatyn dros y saith mlynedd ddiwethaf.”

“Prestatyn yn Ewrop! Wnawn ni ddim sylweddoli arwyddocâd hynny’n llawn am wythnos neu ddwy. Mae hynny’n beth braf ond ennill y Cwpan oedd ein prif fwriad ni heddiw, roedden ni eisiau enw Tref Prestatyn ar Gwpan Cymru.”

.

Prestatyn

Tîm: Hill-Dunt, Hayes, Stones, A. Stephens, C. Davies, Wilson (Owen 107’), Parker,  R. Stephens, Gibson, Parkinson, Price (Murray 119’)

Goliau: Price 3’, 109’ Parkinson 104’

Cardiau Melyn: Hill-Dunt 5’, R. Stephens 6’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Brownhill (Hoy 105’), Brewerton, Johnston, Roberts, Morley (Booth 63’), Allen, R. Edwards, Jones (S. Edwards 59’), L. Davies, Simm

Gôl: C. Davies [g.e.h.] 59’

Cardiau Melyn: Johnston 41’, Simm 45’, Brownhill 90’, Roberts 117’

Cerdyn Coch: Johnston 102’

.

Torf: 1,732