Bala 1–0 Gap Cei Connah

Bala aeth a hi yn rownd go gynderfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sadwrn.

Gap Cei Connah oedd yr ymwelwyr i Faes Tegid yn y gêm i benderfynu pwy fydd yn chwarae yn y gemau cynderfynol am le yng Nghynghrair Europa’r tymor nesaf.

Un gôl yn unig a gafwyd a daeth honno i Lee Hunt o ddeuddeg llath chwarter awr o’r diwedd, wedi i’r dyfarnwr ddynodi cic o’r smotyn ddadleuol i’r Bala am lawiad gan John Hardiker.

Ond fydd y Bala ddim yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf tan brynhawn Llun gan fod hynny’n ddibynnol ar ganlyniad rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng Bangor a Phrestatyn. Os fydd Prestatyn yn ennill y gêm honno bydd y Bala yn teithio i Fangor, ond os fydd Bangor yn cipio safle Ewropeaidd trwy’r cwpan, yna Port Talbot fydd gwrthwynebwyr y Bala.

.

Bala

Tîm: Morris, Irving, Edwards, Davies, Jones, Murtagh, Lunt, Jones, Hunt (Jeffries 90’), Sheridan (Codling 82’), Brown (Connolly 65’)

Gôl: Hunt [c.o.s.] 75’

Cerdyn Melyn: Hunt 43’

.

Gap Cei Connah

Tîm: Rhushton, Hardiker, McGregor, Dobbins, Petrie, Edwards, Forde, C. Jones, R. Jones, Evans, Hayes

Cardiau Melyn: Hariker 75’, McGregor 75’, R. Jones 79’, C. Jones 81’

.

Torf: 409