Abertawe 0–0 Man City

Di sgôr oedd hi rhwng Abertawe a Man City ar y Liberty brynhawn Sadwrn wrth i ddiweddglo di fflach yr Elyrch i’r tymor barhau.

Ers i dîm Michael Laudrup sicrhau diogelwch yn yr Uwch Gynghrair ac ennill Cwpan y Gynghrair ym mis Chwefror mae hi wedi bod yn ddiweddglo digon od i’r Cymry. Ond er nad oedd hon yn glasur o bell ffordd rhaid cofio fod pwynt yn erbyn pencampwyr y tymor diwethaf yn ganlyniad da.

Mewn gêm o ychydig gyfleoedd Abertawe a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf. Methodd Miguel Michu gyfle da yn dilyn gwaith da Nathan Dyer ar y dde a bu rhaid i Vincent Kompany fod ar ei orau i atal ergyd Pablo Hernandez.

Cafodd yr ymwelwyr gyfleoedd gwell yn yr ail hanner. Methodd Edin Dzeko o chwe llath ond ni fyddai’r gôl wedi cyfri gan i’r bêl fynd allan cyn iddi ei gyrraedd. Ac yna, funud yn ddiweddarach crymanodd David Silva ergyd fodfeddi heibio’r postyn.

Ar y cyfan, gêm gyfartal oedd y canlyniad teg, canlyniad sydd yn cadw Abertawe yn nawfed yn y tabl a Man City yn ail.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton, Michu (Moore 69′), Pablo, Dyer (Tiendalli 85′), Routledge (Agustien 64′), De Guzman

.

Man City

Tîm: Hart, Kompany, Zabaleta, Clichy, Nastasic, Milner, Nasri, Barry, Silva (Rodwell 85′), Y Toure (Dzeko 46′), Aguero (Tevez 78′)

.

Torf: 20,242