Hull 2–2 Caerdydd


Cipiodd Caerdydd bwynt hwyr yn erbyn Hull yn Stadiwm KC brynhawn Sadwrn ond roedd y canlyniad yn ddigon i’r tîm cartref ymuno â’r Adar Gleision yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Roedd Caerdydd wedi sicrhau dyrchafiad ers wythnosau ond roedd ganddynt ran i’w chwarae ar y diwrnod olaf serch hynny gan fod Hull angen canlyniad gwell na Watford i sicrhau’r ail safle yn y Bencampwriaeth. Llwyddodd y Cymry i gipio pwynt diolch i gic o’r smotyn hwyr Nicky Maynard ond roedd pwynt yn ddigon i Hull gan i Leeds guro Watford pryn bynnag.

Prin oedd y cyfleoedd yn yr hanner cyntaf. Daeth Craig Conway a Jordan Mutch yn agos i Gaerdydd gyda dau gynnig o bellter a gwnaeth David Marshall arbediad da yn y pen arall i atal Robbie Brady.

Daeth Fraizer Campbell i’r cae fel eilydd i’r ymwelwyr ar gyfer yr ail hanner gan wneud argraff yn syth. Daeth Kim Bo-Kyung o hyd iddo gyda phas hir wych a llithrodd yntau’r bêl heibio i David Stockdale yn y gôl i agor y sgorio.

Cafwyd ymateb cryf gan Hull wedi hynny ac roeddynt ar y blaen toc wedi’r awr diolch i ddwy gôl mewn pum munud. Daeth y gyntaf pan fethodd Caerdydd a chlirio’r bêl yn dilyn arbediad Marshall o ergyd  David Meyler, cafodd y bêl ei chroesi yn ôl i’r canol a rhwydodd Nick Proschwitz.

Yna rhwydodd Paul McShane yn rhy rhwydd o lawer o gic gornel Brady i roi Hull ar y blaen.

Derbyniodd Andrew Taylor  ail gerdyn melyn a cherdyn coch yn y munudau olaf a daeth cyfle gwych i’r tîm cartref ymestyn y fantais o’r smotyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau. Ildiodd Ben Nugent y gic ond llwyddodd Marshall i arbed ei groen trwy atal Proschwitz.

A gwrthymosododd Caerdydd gan ennill cic o’r smotyn eu hunain yn y pen arall, a llwyddodd yr eilydd, Maynard, sydd wedi bod yn dioddef gydag anaf am gyfnod hir i rwydo o ddeuddeg llath.

Torcalon hwyr i Hull felly a bu rhaid iddynt aros am ganlyniad Watford cyn dechrau’r dathlu. Mae dathlu Caerdydd ar y llaw arall wedi hen ddechrau ac roedd hwn yn ganlyniad digon derbyniol i goroni tymor gwych.

.

Hull

Tîm: Stockdale, Rosenior, Chester, McShane, Faye, Elmohamady, Quinn, Meyler, Simpson (Proschwitz 45′), Brady (Fathi 88′), Boyd

Goliau: Proschwitz 58’, McShane 63’

Cardiau Melyn: Elmohamady 41’, Proschwitz 90’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Turner, Nugent, Conway, Kim Bo-Kyung (Gestede 64′), Noone (Maynard 84′), Gunnarsson, Mutch, Velikonja (Campbell 46′)

Goliau: Campbell 49’, Maynard [c.o.s.] 90’

Crdiau Melyn: Taylor 30’, Nugent 79’, Gunnarsson 90’

Cerdyn Coch: Taylor 90’

.

Torf: 23,812