Larkin Cen, Natalie Coleman a Dale Williams
Heno bydd taith tri chogydd amatur – dau o Gaerdydd – yn dod i ben wrth i un ohonyn nhw godi tlws Masterchef 2013.
Larkin Cen, Natalie Coleman a Dale Williams sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ond pwy sy’n mynd i ennill y clod, bri a chymeradwyaeth gan John Torode a Gregg Wallace?
Dechreuodd Larkin Cen o Gaerdydd yn gryf ac mae o wedi creu argraff gyda’i fwyd arbrofol a chymhleth. Ond yn y rownd gynderfynol, gyda’r cogydd enwog Marcus Wareing yn feirniad gwadd, dechreuodd bethau fynd o chwith iddo a tydi o heb gyrraedd yr un uchelfannau ers y soufflé trychinebus hwnnw.
Ond mae’r bwyd wnaeth o goginio yn gynharach yn y gystadleuaeth wedi ei gario cyn belled â hyn a byddai rownd dda heno yn siŵr o’i gadw yn y ras.
Dale Williams yw’r ail gystadleuydd o’r brifddinas ac mae o’n un arall gafodd bryd o dafod llym gan Marcus Wareing – digon llym i wneud iddo grio a dweud y gwir.
Er ei fod o wedi bod yn eithaf cyson hyd yma, mae’n euog o wneud camgymeriadau bach yn aml a bydd angen iddo greu rhywbeth anhygoel i gipio’r tlws heno.
Y trydydd cystadleuydd yw Natalie Coleman o ddwyrain Llundain sy’n DJ rhan amser. Hi yw’r un sydd wedi dangos gwelliant parhaol trwy gydol y gystadleuaeth ac mae hi’n hollol cŵl dan bwysau. Natalie hefyd sy’n coginio’r bwydydd mwyaf blasus ei golwg ac mae ei phersonoliaeth hawddgar wedi ennill ffans di-ri iddi – yn ein tŷ ni, beth bynnag.
Natalie felly yw’r ffefryn ar hyn o bryd ond, fel mae pawb yn gwybod, gall unrhyw beth ddigwydd ar y noson.
Stori: Ciron Gruffydd