Cofio'r meirwon (Llun PA)
Daeth cadarnhad heddiw y bydd cwestau newydd i farwolaeth 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl yn stadiwm Hillsborough yn 1989 yn cael eu cynnal yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y gwrandawiad eto, ond mae disgwyl iddyn nhw ddechrau’r flwyddyn nesaf o dan yr Ustus Goldring.

Fe ddaeth y datganiad ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gan deuluoedd y meirwon ac ymchwiliad a ddangosodd fod yr heddlu wedi ffugio tystiolaeth.

Y cefndir

Penderfynodd y cwestau gwreiddiol fod y 96 wedi marw trwy ddamwain, ac roedd tystiolaeth gan Heddlu De Swydd Efrog yn awgrymu mai’r cefnogwyr oedd yn gyfrifol am farwolaeth y 96.

Daeth i’r amlwg fod rhai o swyddogion yr heddlu wedi celu ffeithiau ac wedi newid cofnodion troseddol er mwyn diddymu unrhyw awgrym eu bod nhw wedi ymateb mewn modd aneffeithiol i’r digwyddiad.

Roedd teuluoedd y 96 fu farw wedi gofyn am beidio â chynnal y cwestau yn Sheffield lle digwyddodd y trychineb ac fe gafodd Llundain ei gwrthod hefyd.

‘Llundain yn rhy bell’

Wrth esbonio’i benderfyniad, dywedodd yr Arglwydd Ustus Goldring: “Mae’r gwrandawiad, mae’n ymddangos i mi, yn bownd o gymryd ychydig fisoedd.

“Pe bai’n cael ei gynnal yn Llundain, byddai’r sawl sy’n dymuno bod yn bresennol i’w ddilyn i ffwrdd o’u cartrefi ac yn byw mewn gwestai am amser hir iawn.

“Dydy hi’n amlwg ddim yn ateb ymarferol i rywun deithio o Lerpwl neu’r Gogledd Orllewin bob dydd.

“Alla i ddim gweld sut y gall unrhyw un â chyfrifoldebau gwaith neu ofalu dreulio cyfnodau hir i ffwrdd o’u cartrefi mewn gwesty yn Llundain.

Awgrymodd y byddai linc fideo ar gael yn ystod y gwrandawiad.