Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi’i enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan y Gymdeithas Awduron Pêl-droed.

Asgellwr Spurs a Chymru yw’r Cymro cyntaf i gipio’r wobr ers Neville Southall yn 1985.

Gorffennodd Bale ar frig y rhestr o flaen ymosodwr Man U, Robin van Persie, enillydd y wobr y llynedd.

Ymhlith y chwaraewyr eraill gafodd eu henwebu ar gyfer y wobr roedd ymosodwr Abertawe, Miguel Michu.

Mae Bale wedi sgorio 24 gôl y tymor hwn, wrth i Spurs gyrraedd rownd wyth olaf Cynghrair Europa, ac maen nhw’n cystadlu am le ym mhedwar uchaf yr Uwch Gynghrair.

Bydd Bale yn derbyn y wobr mewn cinio arbennig yn Llundain ar Fai 9.

Mae’r Cymro 23 oed eisoes wedi’i enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA).

Dywedodd Gareth Bale: “Mae’n anrhydedd anferth i dderbyn gwobr Chwaraewr y Flwyddyn gan y Gymdeithas Awduron Pêl-droed.

“Mae’n golygu cryn dipyn i ennill y wobr hon pan ystyriwch chi faint o’r chwaraewyr sydd wedi bod yn rhagorol i’w clybiau yn Uwch Gynghrair Barclays y tymor hwn.

Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas, Andy Dunn, sydd hefyd yn newyddiadurwr gyda’r Sunday Mirror fod sgiliau rhagorol Bale wedi “tanio’r dychymyg”.