Mae dwsinau o weithwyr rheilffordd yn Abertawe wedi dechrau streic 24 awr ers 8yb bore ma mewn ffrae ynglŷn â diswyddiad un o’u cyd-weithwyr.
Mae aelodau o Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) yn gwrthwynebu diswyddo’r rheolwr trenau yn Abertawe Andy Davies.
Mae’r undeb a chwmni First Great Western wedi rhybuddio y bydd y streic yn amharu ar wasanaethau i mewn ac allan o’r ddinas.
Ond dydy hi ddim yn ymddangos ar hyn o bryd fod unrhyw oedi ar y gwasanaeth.
Y cefndir
Dywed undeb RMT fod y cwmni wedi diswyddo Andy Davies ar ôl “gorymateb i ddigwyddiad” tra roedd e i ffwrdd o’r gwaith.
Maen nhw’n anhapus bod y digwyddiad wedi tynnu’r sglein oddi ar “30 o flynyddoedd o wasanaeth di-staen”.
Galwodd yr undeb ar y cwmni i adael iddo ddychwelyd i’r gwaith.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol RMT, Bob Crow: “Mae aelodau RMT wedi dewis cefnogi’r undeb ac i sefyll gyda’n gilydd yn gadarn i amddiffyn cydweithiwr yn yr anghydfod hwn dros ddiswyddo annheg.”
Ychwanegodd y byddai’r RMT yn fodlon cynnal trafodaethau i ddatrys y mater.