Fe fydd gweithiau celf yn ganolog i ymdrechion Maes Awyr Caerdydd i wella’r croeso y mae teithwyr yn ei gael i’r safle.

Nod y cynllun celf, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw rhoi gwell argraff gyntaf o Gymru wrth gamu oddi ar yr awyren i mewn i’r maes awyr.

Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn fis diwethaf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae argraffiadau cyntaf yn hollbwysig.

“Mae Maes Awyr Caerdydd yn borth pwysig i mewn i Gymru ar gyfer teithwyr awyr a bydd y prosiect newydd hwn yn hybu dull cwbl Gymreig o drafod busnes, diwylliant, y celfyddydau, twristiaeth a digwyddiadau.

“Er nad yw’r prosiect hwn ond yn rhan fach o’r gwaith ehangach sy’n mynd rhagddo i wella cyfleusterau a gwasanaethau Maes Awyr Caerdydd, dylai sicrhau profiad cymaint yn well i’n hymwelwyr.”

Artistiaid o Gymru fydd yn darparu’r gweithiau celf.

Dywedodd Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, Jon Horne:  “Rwy’n falch iawn o weld y prosiect hwn ar waith gan fod y croeso a gynigiwn i’n hymwelwyr yn fater mor bwysig.”