Y Trysorlys
Mae’r pedwar  prif gwmni cyfrifwyr yn defnyddio gwybodaeth gan staff sy’n gweithio yn y Trysorlys i helpu cwmnïau mawr ac unigolion cyfoethog i osgoi talu trethi yn y DU, fe rybuddiodd Aelodau Seneddol heddiw.

Yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, maen nhw’n “bryderus iawn” ynglŷn â’r ffordd mae’r cwmnïau mawr – Deloitte, Ernst & Young, KPMG a PwC – wedi ecsploetio rheolau trethi.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Margaret Hodge y dylai’r arfer gael ei wahardd. Ychwanegodd bod y cwmnïau cyfrifwyr mawr yn “rhy agos” at lywodraeth ac y dylai’r Trysorlys roi’r gorau i’r arfer o ddefnyddio staff y cwmnïau hyn i’w helpu i lunio rheolau treth newydd.