Bashar Assad
Mae Prydain wedi derbyn rhywfaint o wybodaeth sy’n awgrymu bod arfau cemegol wedi cael eu defnyddio yn Syria, meddai Downing Street heno.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 bod y datblygiad yn un “hynod o bryderus” ac mae wedi galw ar lywodraeth Bashar Assad i gyd-weithio gydag arolygwyr rhyngwladol.

Yn Washington, mae’r awdurdodau wedi dweud eu bod “yn weddol hyderus”  bod lluoedd Assad wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn gwrthryfelwyr yn y rhyfel cartref yno.

Ychwanegodd y llefarydd bod y Cenhedloedd Unedig a’u partneriaid wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf a’u bod yn ceisio cael mwy o wybodaeth.

Credir bod Prydain wedi derbyn samplau o Syria a bod profion wedi cael eu cynnal mewn labordy yn Porton Down. Yn ôl adroddiadau, y cemegyn sarin sydd wedi cael ei ddefnyddio.