Bydd pob ci yng Nghymru yn cael meicrosglodyn wedi ei osod ynddyn nhw o 2015 ymlaen.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r cyhoedd mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflwyno’r polisi.

“Mae’n bwysig fod gennym ni fodd o olrhain cŵn i’w perchennog,” meddai Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.

“Mae gan berchnogion cŵn ddyletswyddau dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid ond mae’n gallu bod yn anodd sicrhau fod y dyletswyddau’n cael eu cyflawni heb fodd o adnabod y ci.”

Bydd gosod meicrosglodyn yn orfodol o Ddydd Gŵyl Dewi, 2015.

Yn ôl amcangyfrif Llywodraeth Cymru mae 450,000 o gŵn yng Nghymru ac mae gan 58% ohonyn nhw feicrosglodyn yn barod. Yn Lloegr bydd gosod meicrosglodyn yn orfodol o Ebrill 2016.

RSPCA Cymru: ‘Dim digon pell’

Mae mudiad er atal creulondeb i anifeiliaid wedi croesawu’r mesur, ond yn galw am fesurau cryfach.

“Ry’n ni’n croesawu’r cyhoeddiad ond nid y’n ni’n credu ei fod yn mynd yn ddigon pell,” meddai Claire Lawson o RSPCA Cymru.

“Ry’n ni’n credu y dylai’r llywodraeth gyflwyno cofrestr cŵn gorfodol er mwyn gwella atebolrwydd perchnogion, rhwystro pobol rhag cael cŵn yn ddifeddwl ac ariannu gwasanaethau i addysgu perchnogion.”

Plaid Cymru’n croesawu

Mae Llŷr Huws Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar yr Amgylchedd, wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

“Bydd meicro-sglodion cŵn yn creu cysylltiad cadarn rhwng y ci a’i berchennog,” meddai’r AC dros ogledd Cymru.

“Fe aiff hyn beth o’r ffordd at fynd i’r afael â phwnc cŵn strae, a bydd yn annog perchenogion i fod yn gyfrifol am ymddygiad eu cŵn.”