Cyllyll a ffyrc, teganau meddal, caniau, brics, ffonau symudol, beiciau tair olwyn – dyma rai o’r pethau sy’n cyrraedd rhwydwaith carthffosydd Dŵr Cymru sy’n lansio ymgyrch heddiw i annog cwsmeriaid i fod yn ofalus o’r hyn sy’n cael ei daflu i lawr toiledau.
Bwriad yr ymgyrch ‘Stop Cyn Creu Bloc’ yw sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o beryglon rhoi pethau i lawr y toiled a gwaredu ar fraster, olew a saim.
Dywed Dŵr Cymru bod blocio carthffosydd yn costio mwy na £7 miliwn y flwyddyn i’w glirio, yn ogystal â difrod sylweddol i gartrefi ac adeiladau.
Yn ôl y cwmni, gall hefyd niweidio’r amgylchedd.
Bydd modd ymuno â’r ymgyrch drwy lofnodi deiseb ar-lein Dŵr Cymru.
‘Braster, olew a saim’
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson: “Cyllyll a ffyrc, teganau meddal mawr, caniau, brics, ffonau symudol, beiciau tair olwyn – mae’n rhyfeddol beth sy’n cyrraedd ein rhwydwaith carthffosydd.
“Wrth gwrs, mae’r pethau hyn yn eithaf prin. Mae’r rhan fwyaf o’r 2000 o achosion o flocio rydyn ni’n delio â nhw bob mis yn cael eu hachosi gan bethau bob-dydd sy’n cael eu rhoi i lawr y toiled fel weips, clytiau mislif, ffyn cotwm ac edafedd dannedd; a braster, olew a saim y mae pobl yn eu harllwys i lawr eu draeniau.
“Yn aml, dydi pobl ddim yn sylweddoli bod y pethau hyn yn gallu gwneud i garthffosydd orlifo gan achosi llygredd yn eu tai a’u cymunedau.
“Yn wir, mae’n anghyfreithlon taflu neu arllwys rhywbeth i’n rhywdwaith os yw’n debygol o ddifrodi draen neu garthffos neu ymyrryd â’r llif.
“Bydd pawb sydd wedi cael gorlifiad i’w cartref gan fod draen neu garthffos wedi blocio yn gwybod faint o ddifrod a gofid y mae hynny’n ei achosi.
“Os bydd digon o bobl yn cefnogi’r ymgyrch, byddwn yn gallu sicrhau bod llai o flociadau, gorlifiadau a llygredd ac felly llai o ofid.
“Yn ogystal, os bydd llai o garthffosydd yn blocio, bydd ein cwmni nid-er-elw yn gallu buddsoddi mwy mewn gwelliannau eraill ar ran ein cwsmeriaid.”
‘Effaith ofnadwy’
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies: “Rwy’n croesawu ymgyrch Dŵr Cymru. Mae gorlifiadau o garthffosydd sydd wedi blocio yn gallu cael effaith ofnadwy ar ein cartrefi, ein strydoedd a’r amgylchedd ehangach.
“Mae Cymru’n lwcus i gael rhai o’r afonydd, y traethau a’r glannau gorau yn y byd a gall pob un ohonon ni helpu i stopio’r blocio gan helpu i leihau’r risg o lifogydd a llygredd yn ein cymunedau.”
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi cefnogaeth lawn i ymgyrch Dŵr Cymru ac mae’n gobeithio y bydd yr ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc yn annog pobl i fod yn fwy gofalus wrth daflu pethau.
“Mae llawer o bethau bach fel ffyn cotwm yn anharddu ein traethau prydferth ac os ydych yn taflu saim neu olew i lawr y sinc, gall achosi i garthion orlifo i’r môr.
“Gall hyn ddifetha ymweliad â’n harfordir hyfryd. Taflwch bethau i’r bin neu eu hailgylchu – nid eu taflu i’r toiled neu’r sinc!”