Llys y Goron Lerpwl
Mae cyn actor Coronation Street wedi gwadu ymosod yn rhywiol ar fachgen yn ei arddegau.

Cafodd Andrew Lancel, 42, ei gyhuddo fis Tachwedd y llynedd o dan ei enw go iawn Andrew Watkinson.

Mae’r actor, sy’n dod o Gateacre yn Lerpwl yn adnabyddus am ei rôl yn chwarae Frank Foster yn y gyfres sebon ar ITV.

Fe ymddangosodd Watkinson gerbron Llys y Goron Lerpwl heddiw gan bledio’n ddieuog i chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn o dan 15 oed.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud ag un bachgen a honnir bod yr ymosodiadau wedi digwydd rhwng 1993 a 1994, clywodd y llys.

Cafodd Watkinson ei ryddhau ar fechnïaeth nes bod yr achos yn cychwyn ar 3 Mehefin.