Dywed Llywodraeth Cymru fod 330,000 o gartrefi yng Nghymru’n elwa ar eu cynlluniau newydd i leihau effaith diddymu budd-dal treth cyngor.
Cafodd budd-dal treth y cyngor ei ddiddymu gan Lywodraeth Prydain ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd fel rhan o’r diwygiadau lles. Ac mae’r arian sydd ar gael ar gyfer cynlluniau i ddisodli’r budd-dal wedi lleihau 10%.
Dywed Llywodraeth Cymru, sy’n gwrthwynebu’r toriad hwn ac yn gofidio am effaith y diwygiadau lles ar bobol yng Nghymru, eu bod yn ceisio lliniaru effaith y newidiadau.
I’r perwyl hwn, maen nhw wedi bod yn cydweithio â llywodraeth leol, ac fe fyddan nhw’n sicrhau bod £22 miliwn ar gael i gefnogi awdurdodau lleol er mwyn llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan y toriadau.
Dywedodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am lywodraeth leol, Lesley Griffiths: “Mewn cydweithrediad â llywodraeth leol, rydym wedi cyflwyno cynlluniau i ddarparu cymorth ariannol hanfodol i oddeutu 330,000 o gartrefi yng Nghymru.
“Mae’r arian ychwanegol hwn rydym wedi’i ddarparu’n golygu y bydd rhai o’n hunigolion sy’n wynebu’r peryglon mwyaf yn cael eu hamddiffyn gan doriadau Llywodraeth y DU i’r cymorth sydd ar gael ar gyfer talu treth y cyngor.”