Fe fydd protest yn cael ei chynnal heddiw yn erbyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i symud uned fabanod o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Mae’n rhan o’r cynlluniau i ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r bwrdd iechyd yn cynnig gwasanaethau gofal babanod newydd-anedig yn y ddau ysbyty, ac yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae gofal arbenigol ar gael y tu allan i’r ardal yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Fel rhan o’r cynlluniau ehangach, fe fydd Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn dod o dan ofal nyrsys.

Hefyd, bydd nifer o ysbytai cymunedol, gan gynnwys Mynydd Mawr yn Y Tymbl ac unedau man anafiadau yn Ninbych y Pysgod a De Penfro yn cau.

Wrth wneud y penderfyniad, roedd y bwrdd iechyd wedi mynnu eu bod nhw wedi gwrando ar farn y bobol, ond mae gwrthwynebwyr i’r cynllun yn dweud eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu yn ystod y cyfnod ymgynghori.