Syr Norman Bettison
Fe fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw i honiadau o gamymddygiad gan un o brif swyddogion yr heddlu yn dilyn trychineb Hillsborough.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi bod yn ymchwilio i honiadau bod Syr Norman Bettison wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn dilyn y trychineb pan fu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed.

Roedd Syr Norman yn brif arolygydd gyda Heddlu De Swydd Efrog adeg y trychineb  ar 15 Ebrill, 1989.

Yn ôl yr honiadau roedd Syr Norman wedi ceisio rhoi’r bai ar gefnogwyr Lerpwl am y trychineb.

Mae wedi gwadu’r honiadau.

Fe ymddiswyddodd fel prif gwnstabl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog y llynedd.