Mae gwyddonwyr wedi datblygu brechiad newydd a all reoli neu hyd yn oed ddileu clwy’r traed a’r genau.
Mae clwy’r traed a’r genau yn un o’r clefydau mwyaf heintus sy’n effeithio anifeiliaid ac mae’n gallu lledaenu’n gyflym.
Daw’r brechiad yn dilyn saith mlynedd o waith ymchwil oedd wedi ei ysgogi gan yr argyfwng clwy’r traed a’r genau yn 2001 pan fu’n rhaid i ffermwyr ddifa miloedd o’u hanifeiliaid.
Dywed y gwyddonwyr bod profion yn dangos bod y brechiad synthetig newydd yn fwy effeithlon a mwy diogel na’r brechiad traddodiadol gan nad yw’n cynnwys y firws ei hun.
Fe fydd yn rhaid i brofion clinigol gael eu cynnal cyn y bydd y brechiad yn cael trwydded i’w ddefnyddio gan ffermwyr ac fe allai’r broses gymryd hyd at chwech i wyth mlynedd.
Mae’r brechiad yn fenter ar y cyd rhwng ymchwilwyr y Pirbright Institue, Diamond Light Source a phrifysgolion Rhydychen a Reading. Y Wellcome Trust ac Adran yr Amgylchedd,Bwyd a Materion Gwledig (Defra) oedd wedi ariannu’r rhan fwyaf o’r gwaith ymchwil.