Mae Aelod Seneddol Harrow West wedi galw am ymchwiliad i’r modd mae clybiau rygbi Lloegr yn cael eu hariannu gan ddadlau fod “gogwydd clir” o blaid rhai clybiau.

Yn ôl Gareth Thomas AS mae clwb rygbi Cymry Llundain wedi derbyn £2m yn llai gan undeb rygbi Lloegr na rhai o’r clybiau sy’n cystadlu gyda nhw yn uwchgynghrair Lloegr.

“Mae’r drefn gyllido yn ymddangos i bob pwrpas fel cartel,” meddai Gareth Thomas, sy’n frodor o Harrow ond yn cefnogi clwb Cymry Llundain. Mae’r RFU wedi gwadu’r ffigurau.

Cystadleuaeth go iawn

Yn San Steffan dywedodd Gareth Thomas ei bod hi’n “anodd dirnad” pam fod Cymry Llundain wedi cael cosb
drom o bum pwynt a £15,000 o ddirwy am adael i chwaraewr gynrychioli’r clwb yn groes i’r rheolau.

“Roedd Caerlŷr wedi cynnwys Manu Tuilagi yn eu tîm nhw rhai tymhorau nôl er ei fod i bob pwrpas yn fewnfudwr anghyfreithlon,” meddai Gareth Thomas

“Ni chafodd y clwb ei gosbi o gwbl.

“Dylai’r uwchgynghrair fod yn gystadleuaeth go iawn ble mae clybiau’n brwydro â’i gilydd yn deg. Ar hyn o bryd, yn anffodus, mae’n rhaid i glwb sydd wedi esgyn i’r uwchgynghrair ddringo mynydd er mwyn cael chwarae ac yna chwarae gydag un llaw wedi ei chlymu tu ôl eu cefn.”

Ddoe methodd apêl Cymry Llundain yn erbyn eu cosb a nhw am chwarae Tyson Keats o Seland Newydd, a nhw yw’r ffefrynnau bellach i ddisgyn gan eu bod nhw ar waelod yr uwchgynghrair, bum pwynt y tu ôl i Siarcod Sale.